Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Gorffennaf 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau bod lefelau tlodi plant wedi codi yng Nghymru yn ystod y pandemig er eu bod wedi gostwng yng ngweddill gwledydd y DU?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 5-6 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
(10 munud)
5 Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog - Rheol Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd
NDM8063 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.
2. Yn cymeradwyo'r cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 6, 12 a 17, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes y dylai Rheol Sefydlog 34 beidio â bod yn effeithiol, fel y trefnwyd, ar 1 Awst 2022.
6 Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog - Pleidleisio drwy Ddirprwy
NDM8062 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 12.41A-H Dros Dro ar Bleidleisio Drwy Ddirprwy’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor
(5 munud)
NNDM8068 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sarah Murphy (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Mike Hedges (Llafur Cymru).
7 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon
(60 munud)
NDM8028 Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod nifer sylweddol o weithwyr o Gymru yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau a fydd yn cael eu newid yn sylweddol fel rhan o'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon;
b) pwysigrwydd sicrhau newid teg i economi ddi-garbon;
c) cynllun peilot incwm sylfaenol parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sut y gellid ymestyn y cynllun peilot incwm sylfaenol i weithwyr yn y diwydiannau hyn er mwyn llywio'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon.
Cyd-gyflwynwyr
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Cefnogwyr
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
8 Dadl y Pwyllgor Cyllid - Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
(60 munud)
NDM8060 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r gwaith ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2023-24, ac yn nodi ymhellach y sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn y digwyddiadau a ganlyn:
a) digwyddiad i randdeiliaid yn Sefydliad Glowyr Llanhiledd;
b) gweithdy gydag aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru; a
c) grwpiau ffocws ymgysylltu â dinasyddion.
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu y Pwyllgor Cyllid
9 Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru
(30 munud)
NDM8066 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.
10 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Hepatitis C
(30 munud)
NDM8064 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Cymru wedi gwneud cynnydd da tuag at ddileu feirws hepatitis C drwy sefydlu rhwydwaith clinigol cenedlaethol hynod effeithiol, yn ogystal â chael mynediad teg a thryloyw at driniaeth ledled y wlad.
2. Yn nodi'r llwyddiannau arloesol mewn sawl maes, gan gynnwys dileu feirws hepatitis C ym mhoblogaeth Carchar Ei Mawrhydi Abertawe (y carchar remánd cyntaf yn y DU), yn ogystal â thrawsblannu a thrin organau'n llwyddiannus gan roddwyr a oedd wedi eu heintio â feirws hepatitis C i dderbynwyr newydd - peth arall i ddigwydd fan hyn am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig.
3. Yn cydnabod, er bod Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i'w nod o ddileu strategol, fod angen mwy o flaenoriaethu ac adnoddau gwleidyddol i gau'r bwlch profi a thriniaeth sydd wedi dod i'r amlwg oherwydd pandemig COVID-19 ac i sicrhau na fydd yn mynd tu hwnt i ddyddiad targed 2030.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gorfodi ailsefydlu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed ym mhob ardal bwrdd iechyd, fel y gellir ailddechrau'r broses o nodi, profi, a thrin cleifion feirws hepatitis C yng Nghymru, a'u cysylltu â gofal;
b) datblygu cynllun strategol cenedlaethol i ddileu feirws hepatitis C erbyn 2030 fan bellaf, sydd ag adnoddau cynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n canolbwyntio ar y llwybr cyfan;
c) sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu hariannu a'u bod yn atebol am gyflawni'r cynllun strategol cenedlaethol, o ran darparu gwasanaethau, monitro data ac adrodd ar berfformiad.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
4. Yn nodi:
a) disgwyliad Llywodraeth Cymru y bydd gwasanaethau rheng flaen ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed, gan gynnwys ar gyfer hepatitis C, yn cael eu hailsefydlu ym mhob ardal bwrdd iechyd cyn gynted â phosibl;
b) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r GIG yng Nghymru i gefnogi ei gynlluniau i sicrhau y gall Cymru gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd, sef dileu hepatitis C erbyn 2030;
c) bod systemau sefydledig ar waith i sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu cefnogi a’u dal yn atebol am gyrraedd y targed o ran darparu gwasanaethau, monitro data ac adrodd ar berfformiad.
11 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digwyddiadau a sioeau'r haf
(30 munud)
NDM8065 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu'r ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, ynghyd â sioeau a digwyddiadau haf ledled Cymru, wedi dychwelyd.
2. Yn cydnabod manteision tymor digwyddiadau'r haf o ran hyrwyddo'r Gymraeg, diwylliant Cymru, cynnyrch o Gymru a'n ffordd o fyw.
3. Yn diolch i bawb sy'n ymwneud â sicrhau bod y digwyddiadau'n llwyddiant.
12 Cyfnod Pleidleisio
13 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8061 Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Pleidleisio yn 16 oed: Rhoi'r offer i bobl ifanc ddeall y byd y maent yn byw ynddo, a sut i'w newid, drwy addysg wleidyddol.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Medi 2022